Marged uch Ifan

 

Dynes ryfeddol tu hwnt oedd Marged uch Ifan, neu Margaret Evans fel y cafodd ei bedyddio, a anwyd ym 1695 yn Llanberis wrth droed Y Wyddfa. Mewn cymdeithas oedd yn cael ei reoli'n llwyr gan ddynion, ystyriwyd hi i fod ymysg y goreuon ar hela a physgota. Roedd hi hefyd yn bencampwraig ymaflyd codwm, yn adeiladwr cychod, gof, gwneuthurwr telynau, ac yn gallu canu'r ffidl yn benigamp.

Prynu Llyfr

Y Celtiaid

Hanes

Pobl

Y Testunau

Testunau Cymreig

Testunau Gwyddelig

Mewn Hanes

Merched Cúchulainn

 

Chwedloniaeth Wyddelig

Mewn Chwedloniaeth

Chwedloniaeth Gymreig

Sgroliwch i archwilio

Y Merched

Yr Ymladdwyr

Y Rhai Cain

Gráinne Ní Mháille (Mhaol â'r Gwallt Toredig)

Roedd Gráinne, sy'n cael ei hadnabod fel Grace O’Malley yn Saesneg, yn gymeriad hynod ddiddorol a dygn. Yn ferch i Eoghan O Mháille, pennaeth morwrol o Maigh Eo, priododd Donal o Gonnacht pan oedd hi'n bymtheg mlwydd oed a chael tri o'i blant. Ym 1588 pan esgynnodd Elisabeth I i orsedd Lloegr, roedd Gráinne yn wyth ar hugain oed, pedair blynedd yn unig yn iau na'r frenhines.

 

Dechreuodd Elisabeth ymyrryd mewn materion gwleidyddol yn Iwerddon, ac ymosododd ei lluoedd ar gaer Donal. Er i'w gŵr gael ei ladd yn ystod y brwydro, llwyddodd Gráinne i amddiffyn y castell.

 

Pan ddychwelodd i Maigh Eo efo'i theulu a'i dynion, trechodd pob ymgais wrywaidd i gael rheolaeth dros fflyd ei thad, a dechreuodd warchod yr arfordir. Ymhen hir a hwyr trodd hyn yn fôr-ladrata, gan ymosod ar ac ysbeilio unrhyw longau Seisnig iddi eu canfod ger yr arfordir o Gonnacht i An Mhumhain. Daeth i gael ei chydnabod fel môrleidres o fri, efo tair llong gyflym ac o leiaf dau gant o ddynion o dan ei hadain.

Ym 1556 priododd Gráinne â Risteard-an-Iarainn Bourke, oedd wedi ei lysenwi yn "Rhisiart o Haearn" -

 

‘ysbeiliwr rhyfelgar, swnllyd a gwrthryfelgar’.

yn ôl The Four Masters

 

Priodwyd nhw o dan drefn cyfraith Brehon, oedd yn caniatáu iddynt briodi ar brawf am ddwy flynedd. Parhaodd eu perthynas, er yn un dymhestlog, a rhoddodd Gráinne enedigaeth i'w mab tra ar fwrdd un o'i llongau. Yn fuan ar ôl yr enedigaeth ymosodwyd ar y llong gan fôr-ladron o ogledd Affrica, a bu'n rhaid i Gráinne adael ei phlentyn er mwyn ymuno â'i dynion ar y dec, â'i chleddyf yn ei llaw.

 

‘Beth?’ rhuodd wrth ei dynion. ‘Allwch chi ddim ymdopi hebof am un diwrnod?’

 

Enwyd ei mab yn Tibbot na Long (Tibbot y Llong) i ddangos sut y cyrhaeddodd y fuchedd hon.

 

Daeth ei gorchestion ar y môr â Gráinne i sylw'r Saeson. Ymdrechwyd sawl tro i'w chael i blygu i'r drefn, ond yn aflwyddiannus. Roedd llongau Gráinne wedi eu seilio ar ddyluniad y birlinn o ynysoedd Heledd, yn gryfion ond yn hawdd i'w llywio, efo rhwyfau a hwyliau. Cafodd ei dal a'i charcharu ddwywaith, ond wastad daeth yn ôl i herio ei gelynion. A phrofodd ei hadnabyddiaeth o'r moroedd lleol yn erfyn amhrisiadwy yn ei dwylo.

 

Pan fu farw Risteard ym 1583, trodd Gráinne unwaith eto at gyfraith Brehon a mynnu ei hawl fel arweinydd. Cynyddodd diddordeb Elisabeth yn Iwerddon fel y cynyddodd gweithgaredd anghyfreithlon Gráinne.  Bu'n cludo hurfilwyr i Iwerddon i frwydro yn erbyn y trefedigaethwyr Seisnig, a gwnaeth ei hun yn hynod amhoblogaidd efo llywodraethwr newydd Connacht, Syr Richard Bingham. Dialodd arni drwy gipio'i mab Tibbot a'i gymryd yn wystl. Bingham oedd ei gelyn pennaf, a ni wrthododd yntau unrhyw gyfle i ymosod nac i aflonyddu arni.

 

Ym 1593, a hithau bellach yn dair a thrigain mlwydd oed, blinodd Gráinne ar ei brwydro efo Bingham. Mewn cam mentrus a pheryglus, penderfynodd geisio cyfarfod ag Elisabeth yn uniongyrchol. Ymddengys bod Elisabeth yn chwilfrydig ynglŷn â'r Wyddeles wyllt, a threfnwyd i'r ddwy gwrdd. Trafodwyd yn Lladin, iaith roedd y ddwy yn ei deall, er mae'n bosib fod Elisabeth wedi rhoi cynnig ar ambell air o'r Wyddeleg. Dywed ambell adroddiad o'r cyfnod i'r Frenhines orfod dal ei llaw yn uchel i Gráinne ei chusanu, gan i’r Wyddeles fod yn llawer talach, ac i Gráinne ystyried y cyfarfod i fod yn un rhwng dwy arweinyddes gyfartal.

 

Llwyddodd cast Gráinne, a gorfodwyd Bingham i ddychwelyd i Loegr ymhen deunaw mis. Derbyniodd Gráinne hefyd lythyr gan Elisabeth yn ei hawdurdodi i 'grogi gelynion y Frenhines', yn ymddangosiadol caniatâd i ddychwelyd at fôr-ladrata.

 

Bu farw'r ddwy ym 1603, a chladdwyd Gráinne ar Ynys Cliara, wedi ei hamgylchynu gan y môr y carai gymaint. Mae'r straeon am Gráinne yn dal i gyfareddu, ac mae hi wedi ei hanfarwoli fel arwres Wyddelig mewn cân, barddoniaeth a chelf.

Llyfr Un

 

Hiraeth

a mark - marc

Llyfr Dau

 

Hiraeth

a burden - baich

Llyfr Tri

 

Hiraeth

a loss - colled

Cyfryngau    |    Llyfryddiaeth

© 2014 Liz Riley Jones