Hen Enwau Moelfre

Cychwyn wnes o ddoc Traeth Bychan,

Meddwl am hen ddyddiau pell,

Môr yn torri ar Drwyn Dinas,

Haul yn t'wynu ar Drwyn y Gell.

 

Aros enyd ar Drwyn Morcyn,

Hiraeth oedd o dan fy mron,

Nid oedd smac na cetsh na scwnar,

Heddiw'n hwylio ar y don.

 

Porth y Rhos a Phorth yr Aber,

Rhwng Dau Dir a'i gelyn coch,

Wir ni chewch chi gelyn cochach,

Waeth gen i pa le y bôch.

 

Dros Trwyn Melyn, Dan y Dalar,

Cerrig Slent sydd ar fy ôl,

Ac o'm blaen mae Pentra Moelfra

Gyda'r cychod yn ei gôl.

 

Tan yr Allt a Phorth y Neigwl,

Lle bu llawer sgarmes hyll,

Gwaywffyn o Alecsandra,

Bwa saeth o goed y cyll.

 

 

'Sgota crancod ar Drwyn Neigwl,

Yna lansio cychod scriw,

Hogia'r pentra am y gora'

I fod yn giaptan wrth y llyw.

 

Heibio'r cwt sy' ym Mhorth Llydan,

Meddwl am yr amser gynt,

Troed yr Iâr a Throed y Ceiliog

Dyfai yno yn y gwynt.

 

Trwyn y Gripil, Swnt a'r Ynys,

Y Pwll Dyfn sy' ar y chwith,

Ar Drwyn Pella a Thrwyn Pibo

Gwnai y wylan fach ei nyth.

 

Croesi'r Swnt am Eglwys Sigli,

Pen Clawdd Mawr a Phorth Jewes,

Yna'r Glwyd lle caem gysgod

Pan yr oedd hi'n chwythu'n ffres.

 

Yma 'roedd yr hen long gerrig,

Hwylio wnaem am bedwar ban.

Ond yn awr ma'i wedi sincio

Er na symudodd 'rioed o'r fan.

 

 

Gro Porth Helaeth, Royal Charter,

Hen atgofion yno'n stôr

Heibio'r Bryn at Borth y Cwrwg,

Llefydd da am ddrec y môr.

 

Tywod aur ar Draeth y Moryn,

Dyma'n wir olygfa dlos,

Ond t'wyllodrus oedd yr harddwch

I bysgotwyr yn y nôs.

 

Craig y Ddafad a Traeth Lligwy,

Traeth yr Ora a Phorth Fôr,

Dwndwr mawr o'r carafanau

Lle bu adar gynt mewn côr.

 

Dyma'r Morfa, dyma'r Storws,

Dyma fi ar ben y daith,

Ger y Glaslyn a Phwll Pegi

Lle bûm yn drochi lawer gwaith.

 

Blant y pentra ceisiwch gofio

Yr hen enwau, doed a ddel

Bydd eu clywed ar eich gwefus,

I fy nghlustiau fel y mêl.

gan D.A. Owens

HMS Conway

Yn Hiraeth, mae safleoedd sanctaidd y Neolithiaid cyn-Geltaidd yn y gorllewin yn llinyn cyswllt efo'u disgynyddion cudd ar ymylon Celtaidd Prydain. Ni chodwyd y meini mawrion hynafol, sydd i'w canfod ledled yr ynysoedd hyn, gan y Celtiaid, ond roeddynt yn cael eu hystyried yn sanctaidd ganddynt serch hynny. Mae'r henebion hyn yn aml yn adlewyrchu newid tymor drwy symudiad yr haul, ac roedd seryddiaeth yn ddisgyblaeth fawr ei bri ymysg y derwyddon. Mae nifer fawr iawn o'r henebion hyn drwy Brydain ac Iwerddon, a rhestraf yn unig y rhai sy'n ymwneud â'r stori, er i'r pwnc yn gyffredinol fod yn un hynod ddifyr.

 

Cymru

Iwerddon

  • Bryn Celli Ddu

    Saif y domen Neolithig yma ger Llanddaniel Fab ar Ynys Môn, a chaiff ei ystyried i fod y dramwyfa gladdu bwysicaf yng Nghymru. Tu mewn i'r siambr gladdu saif colofn nac ŵyr neb mo'i phwrpas yn iawn, er mae'n bosib ei bod yn gysylltiedig ag aliniad yr haul ar anterth heuldro'r haf.

  • Din Lligwy

    Saif hwn ar gyrion pentref Moelfre ar Ynys Môn. Mae Din Lligwy yn cynrychioli tair oes mewn hanes. Yn y canol mae siambr gladdu Neolithig o thua 3000CC, efo penllech pum tunnell ar hugain wedi ei gosod ar ei phen. Heb fod ymhell i ffwrdd mae gweddillion cylch o gytiau Gwyddelig, yn ogystal â gweithdy. Canfuwyd darnau o grochenwaith ac offeryn cerddorol fan hyn, ac mae'r gweithdy yn awgrymu bod gof unwaith wedi gweithio yno. Ar lethr yn edrych dros y traeth mae Capel Lligwy, adfail hen addoldy o'r ddeuddegfed ganrif.

     

    Songs from stones - din-lligwy

  • Barclodiad y Gawres

    Siambr gladdu Neolithig enfawr ym Mhorth Trecastell ar arfordir gogledd orllewin Ynys Môn. Mae'r dramwyfa i'r siambr ar ffurf croes, ac wedi ei addurno â cherrig cerfiedig. Mae'n debyg iawn ei arddull i gladdfeydd Brú na Bóinne yn Iwerddon.

  • Pentre Ifan

    Y gromlech hon ger Nanhyfer yn Sir Benfro ydy'r fwyaf o'i bath yng Nghymru, a'r un sydd wedi ei chadw orau. Yn dyddio o tua 3500CC, credir iddi gael ei chodi fel siambr gladdu gymunedol.

  • Tre’r Ceiri

    Bryngaer ryfeddol ar gopa mynydd Yr Eifl ar benrhyn Llŷn ydy Tre’r Ceiri, neu Dre'r Cewri. Gan ddyddio o tua 200CC, roedd pobl yn dal i fyw ynddi yn y cyfnod Rhufeinig-Geltaidd. Mae'r rhan helaethaf o'r muriau amddiffynnol o amgylch y safle yn gyfan, gan ei wneud yn un o'n henebion mwyaf ysblennydd sy'n bosib ei dychmygu.

  • Brú na Bóinne – Palas y Bóinne

    Mae Brú na Bóinne, sydd wedi ei gofrestru fel Safle Treftadaeth y Byd, yn sefyll ar safle 780 hectar o amgylch tro yn Afon Bóinne yn An Mhi yn Iwerddon. Wedi ei godi yn y cyfnod rhwng 3500 a 3200CC, dyma'r safle megalithig mwyaf a phwysicaf yn Ewrop gyfan, ac mae’n cynnwys tri phrif ran, Dún Fhearghusa, Cnoghbha, a Dubhadh.

     

    Newgrange Visitor Information

  • Dún Fhearghusa neu Newgrange

    Gan ddyddio o tua 3200CC, mae hwn yn hŷn na Chôr y Cewri a'r pyramidiau yn Yr Aifft. Oddi mewn mae'n cynnwys tramwyfa a siambrau claddu, a thwmpath crwn anferthol, wedi ei addurno efo ymylfeini cain, yn gorchuddio'r cyfan. Yr addurniadau hyn sy'n gwneud i  Dún Fhearghusa sefyll allan o'i gymharu â chymaint o henebion eraill. Gan ddefnyddio patrymau cymhleth o droelliadau, cylchoedd, arcau a llinellau, mae'n hardd i'w ryfeddu.

    Cafodd hwn hefyd ei godi mewn aliniad a symudiad yr haul ond, fel mae Bryn Celli Ddu yn croesawu golau cyntaf heuldro'r haf, caiff y siambr yn Dún Fhearghusa ei llenwi efo golau cynnar heuldro'r gaeaf. Ar doriad y wawr ar Ragfyr 21ain neu'r 22ain, daw pelydryn o oleuni i'r 'blwch goleuni' uwchben y fynedfa, a chaiff y dramwyfa a'r siambr eu goleuo'n llachar.

     

  • Cnoghbha (Knowth) a Dubhadh (Dowth)

    Mae'r claddfeydd hyn, deunaw i gyd - un fawr a dwy ar bymtheg o rhai llai, yn dyddio i rywle rhwng 2500 a 2000CC. Unwaith eto mae'r addurniadau i'w rhyfeddu atynt, wedi eu cerfio yn y cerrig ym mhob un o'r tramwyfeydd a'r siambrau. Ond yn hytrach na bod ag aliniad â'r haul adeg yr heuldro, aliniad y gyhydnos sydd i Cnoghbha.

    Mae Dubhadh yn llai na'r safleoedd eraill yn Brú na Bóinne, ond mae'r gwaith celf a'r cerfio'r un mor drawiadol. Mae iddo'r un aliniad â'r haul adeg yr heuldro a sydd gan Dún Fhearghusa.

  • Cnwc Tara

    Hefyd ar lannau Afon Bóinne mae Cnwc Tara, wedi ei leoli rhwng An Uaimh, neu Navan, a Domhnach Seachnaill yn sir hynafol An Mhi. Mae'r heneb hon yn cynnwys sawl rhan.

  • Dumha Na nGiall - Tomen y Gwystlon

    Mae'r gladdfa dramwyfa hon yn hen iawn, wedi ei chodi rhywle rhwng 3000 a 2500CC.  Mae'n debyg ei dyluniad ond yn llai na thomen Dún Fhearghusa, ac nid ydy ei meini wedi eu haddurno. Cafodd ei chynllunio i gael ei goleuo gan yr haul yn gwawrio o gwmpas Chwefror 4ydd neu Dachwedd 8fed - i ddathlu Imbolc a Chalan Gaeaf yn y calendr paganaidd. Gelwir y rhain yn ddyddiau croes-chwarter, gan iddynt ddigwydd ar adegau rhywle rhwng yr heuldroadau a'r cyhydnosau.

  • Ráith Na Riogh - Caev y Brenhinoedd

    I'r de o Dumha Na nGiall saif y fryngaer hon o'r Oes Haearn. Oddi mewn i'r gaer mae dau wrthglawdd pridd sy'n cael eu hadnabod fel Treach Cormac, neu Dŷ Cormac, a Forradh, Yr Orsedd. Yn sefyll yn dalsyth yng nghanol y Forradh mae maenhir unigol, y Lia Fáil, neu'r Garreg Ffawd.

  • Lia Fáil

    Nid oes yr un faenhir mewn mytholeg Wyddelig â'r un dylanwad a'r Lia Fáil.  Caiff ei gyfrif fel un o'r pedwar trysor chwedlonol i'r Tuatha Dé Dannan ddod yn ôl efo nhw o deyrnasoedd hudol pell. Y lleill oedd gwaywffon, pair, a chleddyf.

    Roedd y maenhir yn meddu ar allu hudol i ddewis Uchel Frenin nesaf Iwerddon; dywedid pan fyddai gwir etifedd yr orsedd yn ei gyffwrdd, y bysa'r maen i'w glywed drwy'r wlad yn rhuo mewn gorfoledd. Pan fethodd disgybl ifanc Cúchulainn a gwneud i'r maen ruo, holltodd o a'i gleddyf, gan ei dawelu am amser maith iawn.

Enw'r Rhufeiniaid ar Ynys Môn oedd Mona, ond caiff yr ynys hon oddi ar arfordir gogledd orllewin Cymru hefyd ei llysenwi yn ‘Môn Mam Cymru’ oherwydd ei thir ffrwythlon y credwyd y gallai fod wedi bwydo Cymru gyfan. Caiff hefyd ei hadnabod fel yr Ynys Dywyll yn sgil ei chysylltiadau cryfion efo'r derwyddon yn yr oesoedd a fu, a'u harferion ysgytwol.

 

Roedd y Rhufeiniaid yn argyhoeddedig bod Ynys Môn yn gadarnle addysgiadol i'r derwyddon, ac yn fan fysa'n swcro unrhyw wrthryfel. Pan gymrodd Suetonius Paulinius yr awenau fel llywodraethwr Prydain, ymysg ei flaenoriaethau oedd chwalu unrhyw wrthryfel cyn i'r syniad gydio.

 

'Ac felly paratôdd Suetonius Paulinius i ymosod ar ynys Mona, oedd â phoblogaeth sylweddol ei hun, tra hefyd yn cynnig hafan ar gyfer ffoaduriaid; ac, o ystyried baster y culfor, aethpwyd ati i adeiladu fflyd o gychod gyda gwaelodion gwastad. Ac felly y croesodd y troedfilwyr; a'r marchogion, yn eu canlyn, wnaeth hynny drwy rydio neu, mewn dyfroedd dyfnach, drwy nofio ochr yn ochr â'u ceffylau.'

 

Aeth y sylwedydd Rhufeinig Tacitus ymlaen i ddisgrifio'r hyn a wynebai'r goresgynwyr.

 

‘Ar y traeth safai byddin wrthwynebus, rhesi clos o ddynion ac arfau, gyda merched yn gwibio rhyngddynt. Yn arddull y Cynddareddwyr, mewn mentyll duon a'u gwallt yn afler, chwifient eu ffaglau; roedd cylch o Dderwyddon, yn codi eu dwylo tua'r nefoedd ac yn poeri melltithion, yn codi cymaint o ofn ar ein milwyr nes iddynt, fel petai eu haelodau wedi eu parlysu, adael eu cyrff yn agored i'w clwyfo heb ymgais ar symud. Yna, wedi eu sicrhau gan eu cadfridog, a chan annog ei gilydd i fyth lwfrhau gerbron criw o fenywod a phenboethiaid, rhuthrwyd tu ôl i'r baneri gan ladd pwy bynnag a geisia eu rhwystro, a gorchuddio'r gelyn gan ei dân ei hun. Y cam nesaf oedd sefydlu gwarchodlu ymysg y brodorion a orchfygwyd, ac i chwalu'r cellïoedd oedd wedi eu cysegru i'w defodau anwar: ystyrient nhw hi'n ddyletswydd grefyddol i wlychu'r allorau â gwaed carcharorion ac i ymgynghori â'u duwiau drwy berfeddion dynol.'

 

Wrth i lywodraethwyr eraill fynd a dod, yn raddol dechreuodd Ynys Môn atgyfnerthu ei hun, gan yn aml wrthryfela efo cymorth llwyth yr Ordovice oedd yn trigo yn Eryri. Ond bwriodd Agricola ymlaen efo'r gwaith a ddechreuwyd gan Paulinus, ac erbyn 78OC roedd Ynys Môn o'r diwedd wedi ei goresgyn yn llwyr gan y Rhufeiniaid.

Swnt

Rhes o hen fythynnod pysgotwyr ydy Swnt, sy'n edrych allan dros draeth caregog ar draws gulfor cul - neu'r Swnt - at Ynys Moelfre. Mae'r ynys fechan hon yn gartref i nifer o adar y môr, ac arni hefyd mae ogof go anarferol a allai fod yn gartref i ellyll o greadur aiff o dan yr enw Robin Rogo.

 

Moelfre

Hen bentref pysgota hardd ydy Moelfre ac iddo hanes morwrol hir, ac sy'n adnabyddus am ddewrder ei forwyr. Ystyr enw'r pentref ydy 'bryn moel', sy'n disgrifio'r olygfa o'r lle o edrych o'r môr. Mae'r Orsaf Bad Achub a chanolfan Gwylfan Moelfre yn denu ymwelwyr yn eu miloedd yn flynyddol.

 

Cyfansoddwyd y penillion isod gan David Arbonne Owens, cyn aelod o griw gwirfoddol bad achub Moelfre.  Atgoffhâd llym ein bod yn raddol golli hen enwau cymreig Cymru wledig.

RNLI - Yr elusen sy'n achub bywydau yn y môr

Ynys fechan yn unig ydy Prydain sydd wedi ei hamgylchynu gan foroedd tymhestlog, a thrai a llanw sylweddol. O ganlyniad, cynhyrchodd forwyr penigamp dros y canrifoedd, efo pob pysgotwr ym mhob pentref o un pen o'r arfordir i'r llall yn adnabod mympwyon ei ddyfroedd lleol - roedd ei fywyd yn dibynnu ar hynny. Ond bu wastad drychinebau, ac wrth i'r moroedd brysuro mwyfwy yn sgil y chwyldro diwydiannol, daeth y colledion yn fwy.

 

Ym 1824 sefydlwyd yr RNLI - yr elusen badau achub - gan Syr William Hilary ar ôl iddo fod yn dyst i'r môr yn cipio nifer enfawr o fywydau heb fod ymhell o'i gartref ar Ynys Manaw.

 

‘Gyda gwroldeb, nid oes unrhyw beth sy'n amhosib,’ oedd un o ddywediadau Hilary sy'n disgrifio ethos yr elusen i'r dim.

 

Mae amlder y gorsafoedd badau achub yn rhai o rannau gwylltaf arfordir gorllewinol Prydain, a'u math arbennig hwy o ddewrder, yn rhoi'r fraint i'r RNLI o fod yr unig gyfeillion brif ffrwd sydd gan y derwyddon meudwyol yn stori Hiraeth.

 

RNLI     MoelfreLifeboat

Rygbi'r Undeb

Ymladd

Mae'r ymladd un-am-un yn Hiraeth yn gymysgedd o Taekwondo, MMA a chwffio di-reolaeth, sydd wedi creu rhyw fath o ymladd croesryw heb fawr ddim rheolau.

 

Taekwondo - Llwybr y droed a'r dwrn

 

 

Crefft Ymladd Gymysg

 

Camp sy'n caniatáu cyffwrdd corfforol llawn ydy MMA (Mixed Martial Arts), lle mae dyrnu, cicio a thechnegau ymaflyd codwm yn dderbyniol. Bamma

Camp galed o gyffwrdd corfforol llawn rhwng dau dîm o bymtheg chwaraewr, sy'n ceisio gosod pêl hirgron ar y ddaear dros linell derfyn y tîm arall. Gelwir hyn yn 'gais', ac mae'n werth pum pwynt. Caiff hyn ei gynyddu i saith pwynt os llwydda ciciwr y tîm i blannu'r bêl drwy ganol y pyst siâp 'H'. Mae'n rhaid i'r bêl wastad gael ei phasio am yn ôl, ac mae'n anghyfreithlon i daclo'n uwch na'r ysgwyddau.

 

Mae'n gêm swynol, yn botes o ddewrder a chyfrwystra, sy'n gofyn am chwarae fel uned os am ennill. Disgrifiwyd hi fel hyn gan y diweddar actor Richard Harris, Gwyddel pybyr a fu'n dipyn o chwaraewr rygbi ei hun yn ei ieuenctid:

 

"Mae rygbi'n perthyn i'r galon, nid i'r pen. Rhywbeth i'w gofleidio neu ei ddirmygu - does dim tir canol. Mae yna rai sy'n rhythu arna' i'n wag pan fyddaf yn siarad am rygbi, ond eraill ar eu hunion yn deall fy mrwdfrydedd a'r pryder sy'n troi stumog rhywun. Ni ydy'r rhai ffodus."

 

Am filoedd o flynyddoedd bu'r Celtiaid Ynysol yn chwarae gêm redeg â phêl o'r enw ‘Caid’, gair Cymraeg sy'n golygu cwd ceilliau tarw. Newidiodd i'r gamp Gymreig ‘Cnapan’, oedd yn debyg iawn i'w chyfnither Gernywaidd Hyrlîan, y ddwy yn rhannu'r un defnydd o rym corfforol â rygbi'r undeb fel y caiff ei chwarae heddiw.

 

Yr enw ffurfiol ar Gwpan Rygbi'r Byd ydy 'Tlws William Webb Ellis', oherwydd yn chwedlonol dyna oedd enw'r bachgen yn Ysgol Rugby yn Lloegr a benderfynodd un diwrnod gipio'r bêl yn ei ddwylo a rhedeg efo hi yn hytrach na'i chicio. Ni wyddom os ydy hynny'n wir ai peidio, ond nid ydy hynny o unrhyw bwys mewn gwirionedd.

 

Cyflwynwyd y gêm i Gymru ym 1850, pan gafodd ei chwarae am y tro cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan. Fyth ers hynny datblygodd rygbi'r undeb yng Nghymru yn rhywbeth llawer mwy na champ yn unig - mewn sawl ffordd mae bron yn grefydd sy'n cynrychioli rhyw deimlad o anghyfiawnder ymysg y Cymry, yn enwedig tuag at y Saeson. Mae araith capten tîm Cymru, Phil Bennett, i'w chwaraewyr cyn gêm yn erbyn Lloegr ym 1977 yn taflu peth goleuni ar ddyfnder y teimlad yma:

 

"Edrychwch be mae'r diawliaid yma wedi ei wneud i Gymru. Maen nhw wedi cymryd ein glo, ein dŵr, ein dur. Maen nhw'n prynu ein cartrefi a byw ynddynt am bythefnos bob blwyddyn. Be maen nhw wedi ei roi i ni? Dim byd o gwbl. Ry'n ni wedi ein hecsbloetio, ein treisio, ein rheoli a'n cosbi gan y Saeson - a dyna pwy y'ch chi'n eu chwarae'r pnawn 'ma."

 

Yn amlwg mae angerdd ar y raddfa hon yn arwain at gemau cyffrous, ac uchafbwynt y calendr rygbi ydy cystadleuaeth y Chwe Gwlad. Pob gwanwyn daw Lloegr, Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Ffrainc a'r Eidal ynghyd i frwydro am oruchafiaeth.

 

Ar un pryd cymerwyd rygbi merched yn ysgafn, ond ddim mwyach. Gan fwynhau sylw ar deledu a radio cenedlaethol, mae'r merched bellach yn cystadlu dros eu gwledydd i'r un safon â wna'r dynion. Mae ganddynt eu Cwpan y Byd eu hunain, yn ogystal â'u cystadlaethau Chwe Gwlad a saith bob ochr.

 

Llyfr Un

Hiraeth - y marc

Bu Mona Jones ar ffo drwy'i hoes, heb wybod pam. Cafodd ei rhieni eu llofruddio pan oedd hi yn ei harddegau, a bellach a hithau'n un-ar-hugain mae ei hewythr a'i gwarchodwr hefyd yn gelain. Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau yn ei gorfodi i chwilio am loches yng nghanol y gymuned glós Gymraeg ym Moelfre, Ynys Môn. Yn fuan daw ei llinach dderwyddol i'r wyneb, ac mae'n canfod ei hun yng nghanol rhyfel cartref rhwng gwahanol garfannau o dderwyddon.

 

Mae'r 'Marc' yn rhyddhau'r grym anhygoel sydd oddi mewn iddi, ond mae ynddi hefyd wendid difrifol. Mae'n cael ei hudo i fynwes yr ymladdwr Cai, ond maen nhw'n cael eu gwahanu wrth i fflyd y gymuned o longau gael eu denu i'r môr pan mae'n ymddangos bod y gelyn ar fin ymosod. Daw'r derwyddon i gredu bod ysbïwyr yn eu plith, a daw Mona a Cai o dan amheuaeth. Pan ddaw ymosodiad ar Mona, mae'r grym anwirfoddol sy’n cronni ynddi yn ffrwydro eto. Mae'r derwyddon yn gorfod penderfynu ai eu hachubwr ydy Mona, ynteu un sy'n mynd i'w dinistrio.

 

Mae'r cymeriadau yn llyfrau Hiraeth wedi eu hysbrydoli gan arwyr a dihirod y Táin, wrth iddynt ymgymryd â theithiau o oleuedigaeth a thrasiedi o'r Mabinogi, ond gan hefyd orfod delio â'r byd go iawn. Maen nhw'n gorfod wynebu'r twf syfrdanol mewn technoleg, newidiadau enfawr yn rôl y gwryw a'r fenyw, y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â brwydro gelynion o du mewn i'w byd cudd.

 

Themâu

Y Gymraeg – Yr Hen Iaith

Mae parhad yr iaith Gymraeg yn thema hollbwysig yn stori Hiraeth. Am filoedd o flynyddoedd, byddai ei rhagflaenydd Celtaidd wedi cael ei siarad ar draws Prydain. Roedd ffurf hynafol o Gymraeg, er yn adnabyddadwy hyd heddiw, wedi cael ei siarad o Gernyw i iseldiroedd Yr Alban. Mae sawl lle na fu Celt ar ei gyfyl ers hydoedd maith yn dal ag enwau Celtaidd.

 

Drwy orchfygiad a mewnfudo, newidiodd yr iaith fel y gwnaeth ei ffiniau; yn gyntaf gyda chyflwyno Lladin, ac yna ieithoedd Almaenaidd y Sacson a'r Llychlynnwr, hyd at Ffrangeg y Normaniaid.

 

Gwyddai'r concwerwyr hyn i gyd y bysa wastad berygl o wrthryfel tra bysa'r famiaith yn fyw, a cheisiodd y cyfan ohonynt ei difa. Bu peth llwyddiant dros y canrifoedd, a daeth rhai Celtiaid uchelgeisiol i sylweddoli bod y Saesneg yn cynnig llwybr rhwyddach at ffyniant a swyddi gwell na'r iaith frodorol.

 

Ym 1272, pan esgynnodd Iorwerth I i orsedd Lloegr, roedd pedwar deg pump y cant o boblogaeth Prydain ac Iwerddon yn siarad iaith Geltaidd. Roedd yn benderfynol o'u difodi, ynghyd â'u diwylliant, yn arbennig felly yng Nghymru a'r Alban. Bu'n rhannol lwyddiannus yn ei ymdrechion.

 

Dirywiodd y Gymraeg yn raddol yn sgil deddfau oedd yn ceisio ei gwanio, ac wrth i'r Cymry gael eu hannog i wneud llai o ddefnydd ohoni. Hyd yn oed mor ddiweddar â'r 1880au roedd plant Cymraeg yn cael eu cosbi a'u curo am feiddio ei siarad yn yr ysgol. Dangosodd y cyfrifiad ym 1891 mai prin hanner poblogaeth Cymru oedd yn medru'r Gymraeg, digwyddiad oedd yn drobwynt pwysig yn ei hanes. Sefydlwyd prifysgol gyntaf Cymru yn Aberystwyth ar ôl codi pres drwy danysgrifiadau cyhoeddus, a gwelwyd toreth o gyhoeddiadau Cymraeg yn dod o'r gweisg, mewn ymdrech i atal y llif. Camodd cymysgedd brith o ddarpar waredwyr i'r frwydr; roedd gan Fethodistiaeth, corau meibion a hyd yn oed rygbi i gyd eu rhan i'w chwarae yn amddiffyn ac adfer y Gymraeg yng Nghymru.

 

Serch eu hymdrechion, parhau i wanio gwnaeth yr iaith ac, erbyn 1961, roedd nifer y siaradwyr wedi gostwng i bump ar hugain y cant. Â'r sefyllfa yn druenus, defnyddiodd y llenor Saunders Lewis, un o sylfaenwyr a chyn-arweinydd Plaid Cymru, gyfle a roddwyd iddo i draddodi darlith radio flynyddol i annog y Cymry i weithredu er mwyn achub eu hiaith. Cafwyd ymateb bron yn syth a ni welwyd yr ymgyrch yn gwegian ers hynny, efo Cymru yn dod yn wlad ddwyieithog swyddogol; daeth teledu a radio Cymraeg, arwyddion ffyrdd, a Senedd genedlaethol efo'i gweision suful ei hun.

Gall y Gymraeg fod yn iaith anodd ei dysgu i siaradwr Saesneg - ac nid y gramadeg na'r sillafu anghyfarwydd yn unig sy'n gyfrifol am hynny. Wrth siarad Cymraeg, mae'n rhaid i'r geg a'r ymennydd weithredu mewn modd tra gwahanol; mae'n rhaid rowlio’r llythyren 'r', mae'n rhaid gofalu swnio'r 'll' yn eglur, ac mae rhyw dinc gerddorol i'w chyrraedd drwy osod pwyslais mewn mannau gwahanol. Mae'r Gymraeg yn teimlo'n wahanol yn y geg, ac yn swnio fel barddoniaeth wrth ei siarad.

 

Mae llawer o frwydro eto i'w wneud. Er bod y Gymraeg yn bwnc gorfodol bellach ym mhob ysgol yng Nghymru, un o bob pump o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith. Wedi dweud hynny, o ystyried y ffin hir efo Lloegr a'r modd y cafodd yr iaith ei sathru yn hanesyddol, efallai ei bod yn syndod bod unrhyw un ar ôl. Yng ngeiriau Dafydd Iwan:

 

R’yn ni yma o hyd : We're still here

Er gwaetha pawb a phopeth : Despite everybody and everything

R’yn ni yma o hyd : We're still here

 

Mae credo baganaidd â rhan allweddol yn stori Hiraeth, ond caiff ei ddefnyddio fel cefndir i ymddygiad moesol y cymeriadau yn hytrach nac fel crefydd. Maen nhw'n dathlu newid y tymhorau, ac yn gweld amser yn fwy fel cylch nac fel llinell unionsyth. Mewn gwirionedd, yr oll rwyf wedi ei wneud ydy cyplysu syniadau amldduwiaeth y Celtiaid, cyfundrefnau cyfreithiol Hywel Dda a Brehon, ambell gred uwch-dderwyddol, a'r calendr Paganaidd.

 

Derwyddiaeth

 

Mae'r dderwyddiaeth oddi fewn i Hiraeth wedi ei lunio i adlewyrchu arferion tybiedig a strwythur derwyddiaeth ymysg cymunedau Celtaidd Prydain tua 400CC. Adferwyd ysbryd derwyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac yn aml caiff ei labelu'n annheg fel rhan o'r lol 'Oes Newydd'. Mae Urdd y Beirdd, Ofyddion a Derwyddon, serch hynny, yn ymddangosiadol yn cwmpasu ysbryd bywyd crefyddol fy nghymeriadau. Gweithio efo natur a pharchu'r blaned ydy prif ysgogiad yr Urdd. Ymysg ysgogiadau eraill mae meithrin ac annog parhad yr ieithoedd Celtaidd, y gerddoriaeth a'r diwylliant.

 

“Mae Derwyddon uwchben pob dim arall yn ceisio coleddu doethineb, creadigrwydd a chariad. Mewn sawl einioes ar y ddaear, yn hytrach nac un yn unig, cawn gyfle i ddatblygu'r rhinweddau hynny oddi mewn i ni."

 

Y Flwyddyn Baganaidd

Paganiaeth a Derwyddiaeth

Safleoedd Sanctaidd

Ynni Gwyrdd

Mae'r byd yn parhau i ddefnyddio mwy a mwy o ynni, ond yn meddu ar adnoddau tanwydd ffosil sy'n prinhau o ddydd i ddydd. Bellach daeth hi'n bryd i ganfod dulliau mwy cynaliadwy a llai dinistriol o greu ynni, er lles yr economi a'r amgylchedd. Golyga hyn lawer mwy na dim ond buddsoddi mewn cynlluniau i fedi'r haul a'r gwynt. Mae meddyliau praffaf y byd eisoes yn gweithio ar syniadau arloesol, ac mewn gwirionedd mae gofyn cael sawl ffordd ymlaen, ond dyma ambell un.

Lleoedd

Mona - Ynys Môn

Llong ryfel bren o'r 19eg ganrif oedd HMS Conway, ac ym 1859 dechreuwyd ei defnyddio fel ysgol hyfforddiant ar gyfer darpar swyddogion pan oedd prinder dybryd ohonynt. Yn wreiddiol roedd wedi ei hangori ar Afon Merswy yn Lerpwl, ond yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd symudwyd hi i stad Plas Newydd ger Llanfairpwllgwyngyll ar Ynys Môn. Wrth gael ei llusgo'n ôl i Lerpwl ym 1953 ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu, tarodd yn erbyn creigiau ym Mhwll Ceris yng nghulfor Menai. Difrodwyd hi'n ddifrifol, ac yn y diwedd bu'n rhaid ei llosgi.

 

Darn peryglus o ddŵr ydy Pwll Ceris sy'n gorwedd rhwng y ddwy bont sy'n croesi'r Fenai.  Mae'n ddrwg-enwog am y cerrynt nerthol a chymhleth sydd i'w gael yno, ac mae'n cael ei effeithio'n ddrwg gan gyflwr a chyfeiriad y gwynt allan ym Môr Iwerddon. Roedd morwyr lleol, oedd yn gyfarwydd â'r peryglon, wedi rhybuddio'r capten ddaeth i symud y Conway rhag gwneud hynny, ond anwybyddodd o nhw. Cafodd y llong ei llusgo yn erbyn y creigiau gan drolif chwyrn, ac yno y bu am gyfnod efo'i thrwyn ar y lan ond ei chefn yn dal mewn deg troedfedd ar hugain o ddŵr.  Ar Ebrill 14eg 1953 torrodd meingefn y llong ac, ar ôl ceisio ei hachub dros ddeuddydd, yn y diwedd roedd yn rhaid rhoi'r ffidl yn y to a chydnabod ei bod wedi ei cholli. Nid oedd yswiriant ar y llong.

 

Yn sgil colli'r llong, ffynnodd yr ysgol fel sefydliad ar y lan, mewn adeilad arbennig ym Mhlas Newydd. Agorwyd yr ysgol newydd ym mis Mai 1964 gan Ddug Caeredin. Costiodd yr adeilad £400,000 i'w godi, ac ynddo roedd ystafelloedd dosbarth, cegin, ffreutur, ystafelloedd adrannol, ystafelloedd gwely, llety ar gyfer y staff a llety'r capten. Roedd maes ymarfer tu allan, efo hwylbren ganol y llong a phenddelw oddi arni o boptu iddo.

 

Ym 1968, â'r lle mewn trafferthion ariannol dybryd, cymerodd Ffederasiwn Llongau Prydain y cyfrifoldeb dros hyfforddiant morwrol a lleoliadau, tra i Awdurdod Addysg Sir Gaer gymryd rheolaeth dros addysg yn gyffredinol yn yr ysgol. Ond roedd yr ysgrifen ar y mur â llynges fasnachol Prydain yn prysur grebachu yn ei maint. Ar Orffennaf 11eg 1975 gosodwyd lliwiau HMS Conway allan yng Nghadeirlan Lerpwl am y tro olaf. Mae'r adeilad bellach yn gartref i Ganolfan Conway, canolfan breswyl ar gyfer y celfyddydau ac addysg awyr agored.

Prynu Llyfr

Cylchfordaith Prydain - Taith Cai

Sgroliwch i archwilio

HMS Conway

Llyfr Un

 

Hiraeth

a mark - marc

Llyfr Dau

 

Hiraeth

a burden - baich

BLlyfr Tri

 

Hiraeth

a loss - colled

Cyfryngau    |    Llyfryddiaeth

© 2014 Liz Riley Jones